Fe fydd Prif Weinidog newydd gwledydd Prydain yn dod i Gymru heddiw i ymweld â’r Cynulliad ym Mae Caerdydd.
Fe fydd David Cameron yn cael ei gyfarfod cynta’ gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i drafod y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth – y tro cynta’ i lywodraethau o liwiau gwahanol fod mewn grym yng Nghaerdydd a Llundain.
Mae disgwyl y bydd y cwestiynau mwya’n codi tros dri phwynt polisi:
• Refferendwm – a fydd David Cameron yn cefnogi’r syniad i gael refferendwm ar ragor o ddatganoli yn ystod yr hydref?
• Gwario cyhoeddus – a fydd David Cameron yn cadw at addewid ei Ganghellor, George Osborne, i ohirio toriadau pellach mwn gwario cyhoeddus yng Nghymru eleni?
• Fformiwla Barnett – a fydd David Cameron yn cadw’r addewid i edrych eto ar y ffordd y mae arian yn dod i Gymru o Lundain. Cyn yr etholiad roedd wedi cefnogi’r syniad o fformiwla newydd “ar sail angen”.
Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn dod gyda’r Prif Weinidog newydd – mae hi eisoes wedi cael un cyfarfod gyda Carwyn Jones i sefydlu trefn weithio rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cymru.
Yn union ar ôl sefydlu’i lywodraeth glymblaid gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, roedd David Cameron wedi addo y byddai’n ymweld â phob un o wledydd Prydain o fewn yr wythnos gynta’.
Llun: David Cameron ar ei ymweliad diwetha’ – yn y Drenewydd cyn yr etholiad