Mae gwraig ganol oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio bachgen ym Mro Morgannwg.
Daethpwyd o hyd i gorff y plentyn 11 oed mewn tŷ yn Rhws ger Y Barri ddydd Sadwrn ac fe gyhoeddodd yr heddlu ar unwaith bod y farwolaeth yn un amheus.
Erbyn ddoe, roedden nhw wedi dechrau ar ymchwiliad llofruddiaeth gan sefydlu ystafell arbennig i wneud y gwaith yn Swyddfa Heddlu Penarth.
Fe gafodd y wraig 48 oed ei harestio yn ystod y dydd ddoe ac mae’n dal i gael ei holi gan Heddlu De Cymru.
Mae archwiliad post mortem hefyd wedi ei gynnal ond does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.