Isaías Eseia Grandis o Drevelin sy’n adrodd hanes Eisteddfod Trevelin 2010….
Pan oedd Isaías yn bymtheg oed, dechreuodd fynychu dosbarthiadau Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes, ac yn 2006 cafodd ysgoloriaeth i fynd i Gymru.
Dychwelodd i Gymru y llynedd i ddilyn Cwrs Meistrioli yng Nghaerdydd a chafodd gyfle i arsylwi a chael hyfforddiant yn Ysgol Ffynnonbedr, Llambed ac Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd.
Yn awr, mae’n gweithio fel tiwtor Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes, Trevelin ac fel athro Twristiaeth yn Ysgol Uwchradd Corcovado.
Cafwyd Eisteddfod Bro Hydref llwyddianus yn Nhrevelin, Patagonia, Nos Wener 31ain o fis Ebrill a Dydd Sadwrn 1af o Fai, 2010.
Mae’r traddodiadau Cymreig yn rhan o fywyd Cwm Hyfryd ers 1885 pan ddaeth y Cymry cyntaf dros y Paith i ymsefydlu yn yr Andes, dan arweiniad y Rhaglaw Fontana.
Eisteddfod ddwyieithog yw hi, Cymraeg a Sbaeneg, iaith swyddogol yr Ariannin. Daeth bobol o Ddyffryn Camwy, sef Trelew a’r Gaiman a hefyd o Gomodoro, Dinas yr Olew. Roedd llawer o blant yn cystadlu Dydd Gwener, a Dydd Sadwrn cawsom amser da yn gwrando ar gôr lleol Seion a chorau o Drelew, Y Gaiman ac El Maiten, yn Nhalaith Chubut, ond hefyd croesawyd Nora O’Brian, Llinos, Helen ac Eluned o Gymru.
Enillodd Nant Roberts Gogledd Cymru gadair yr Eisteddfod yn yr Iaith Gymraeg a Julia Chaktoura o Drelew y goron yn yr Iaith Sbaeneg.
Dyma ran olaf y gerdd “Rhyfeddodau’r cread” a enillodd brif gystadleuaeth yr Eisteddfod hon:
Rhyfeddod prin
Ar gyfandir yn hemisffer y de,
rywle rhwng aml sgertiau gwynion yr afon a thir y tân,
fe saif teithiwr i ryfeddu.
Bydd wedi chwysu wrth ddringo’r copaon,
wedi gwlychu yn llwch dŵr y rhaeadrau,
ac wedi cyffroi wrth glywed clecian tanio gwn y rhewlifoedd.
Ac yna, ar ôl croesi’r ania1dir eang,
mae’n canfod rhyfeddod prinnach.
Mae’n synhwyro mawredd cymeriad dynion nad oedd am gael eu concro,
mae’n ymwybodol o gadernid cydwybod y rhai oedd a’r lliw haul ar eu talcen,
yn gweld patrwm cywrain gofal y gwragedd am eu plant,
a phob teulu’ n drysor.
Mae’n clywed llifeiriant parhaus moesoldeb, dysg, cerdd a chân,
mae’n blasu’r ysbryd na roddai le i anobaith ddiffodd y fflam,
yn arogli’r pridd a gloddiwyd,
ac yn teimlo cynhesrwydd y tân oedd mewn enaid.
Codwyd cartrefi a chapeli, torrwyd ffosydd,
Gyda phenderfyniad a dyfalbarhad yn lli adrenalin y gwythiennau.
Dyfrhawyd y tir, ac mae tystiolaeth yr aberth a’r llafur yno o hyd.
Yr ymdrech a’r cyffro, y chwysu, y gwlychu a’r sychu!
Er creithiau’r gofid, ni ddiffoddodd fflam yr egwyddor.
ydyn, maen nhw yno.
Ai Cymry sydd yno’n byw ym Mhatagonia?
Ai Archentwyr sy’n siarad Cymraeg?
Mae’r teithiwr yn holi,
ac yn rhyfeddu.
Maen nhw yno o hyd.
(Ffug enw: Y TEITHIWR/ Nant Roberts)
Canol nos ar ddiwedd yr Eisteddfod cawsom swper i ffarwelio â’r ymwelwyr- cystadleuwyr.
Roedd Cymanfa Ganu ar fore Dydd Sul yn Neuadd y Dref. Fe wnaeth y Parchedig Ganon Tegid Roberts o Gymru, Gweinidog Cymraeg Undeb Eglwysi Rhyddion y Wladfa sydd yn Nyffryn Camwy am flwyddyn ein harwain yn y darlleniad a’r weddi.
Arweinwyr y canu oedd Marli Villoria, Gladys Thomas de Hughes a Rebeca White.
Mae’r Pwyllgor Gwaith yn gobeithio cael llawer o gystadleuwyr o Gymru y flwyddyn nesaf, croeso i bawb!