Daeth degau o filoedd o bobl i Rufain heddiw i ddangos eu cefnogaeth i’r Pab mewn adwaith i’r feirniadaeth fu arno yn sgil yr achosion o gam-drin plant gan offeiriaid Pabyddol.

Cymdeithas o 68 o grwpiau lleyg yn yr Eidal a drefnodd y digwyddiad yn Sgwâr San Pedr a ddenodd tua 150,000 o ffyddloniaid yr Eglwys o bob rhan o’r wlad.

Dywedodd y Pab Benedict XVI fod “yr arwydd hardd a digymell hwn o ffydd a chefnogaeth” yn gysur mawr iddo, a chondemniodd y “pechod” sydd wedi heintio’r eglwys.

Wrth iddo gyflwyno’i weddïau o’i ffenest, roedd y dorf yn torri ar ei draws yn gyson gan weiddi “Bendetto!”.

“Diolch ichi am eich presenoldeb a’ch ymddiriedaeth,”meddai. “Mae’r Eidal i gyd yma.”

Er na chyfeiriodd yn uniongyrchol at y sgandal gam-drin plant, ailadroddodd ei alwad am buro’r eglwys.

“Y gwir elyn i’w ofni ac i ymladd yn ei erbyn yw pechod, y drygioni ysbrydol sydd weithiau’n anffodus yn heintio hyd yn oed aelodau o’r eglwys,” meddai.

Llun: Y Pab Benedict XVI yn bendithio’r ffyddloniaid yn Sgwâr San Pedr, Rhufain heddiw (AP Photo/Pier Paolo Cito)