Dywedodd protestwyr y Crysau Coch yng Ngwlad Thai eu bod yn barod i drafod gyda’r llywodraeth os bydd y fyddin yn cytuno i dynnu’n ôl ar unwaith.
Dros y pedwar diwrnod diwethaf, mae o leiaf 25 o bobl wedi cael eu lladd mewn brwydro gwaedlyd rhwng y fyddin a’r protestwyr yn y brifddinas Bankok.
“Rydym yn barod i drafod ar unwaith. Y brys yw rhwystro marwolaethau pobl. Fe all gofynion gwleidyddol aros,” meddai Nattawut Saikua, un o arweinwyr y Crysau Coch.
“Rhaid i’r llywodraeth orchymyn cadoediad a thynnu’r milwyr yn ôl i ddechrau, ac wedyn fe wnawn ni alw’n pobl yn ôl,” meddai.
Ychwanegodd y byddai’n rhaid i’r Cenhedloedd Unedig wasanaethau fel cymodwr yn y trafodaethau gan nad oedden nhw’n ystyried bod unrhyw sefydliadau niwtral a chyfiawn yn y wlad.
Yn y cyfamser, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi stad o argyfwng yn y rhai o daleithiau gogleddol y wlad – cadarnleoedd y protestwyr – er mwyn rhwystro rhagor rhag teithio i Bankok.
Yn wreiddiol, roedd wedi bwriadu gweithredu cyrffiw yn y brifddinas, ond yn ddiweddarach yn y dydd daeth newydd eu bod wedi rhoi’r gorau i’r cynllun.
Roedd cwmwl o fwg du uwchben y ddinas heddiw wrth i brotestwyr greu coelcerthi o deiars i weithredu fel baricêd.
Mae’r Crysau Coch wedi meddiannu milltir sgwar yn un o ardaloedd mwyaf ffasiynol y ddinas ers canol mis Mawrth mewn ymgais i orfodi’r Prif Weinidog Abhisit Vejjajiva i ymddiswyddo ar unwaith, diddymu’r senedd a galw etholiadau newydd.
Llun: Protestiwr yn erbyn y llywodraeth yn cerdded ar ôl tywallt petrol ar goelcerth o deiars yn Bankok heddiw (AP Photo/Wally Santana)