Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn a dynes gael eu hanafu wrth syrthio dros ochr pont yn Llangollen neithiwr.

Mae’r ddau yn yr ysbyty’n derbyn triniaeth, ac mae un ohonyn nhw wedi derbyn anafiadau difrifol.

Nid yw’r heddlu’n trin y digwyddiad fel achos amheus.

“Ychydig wedi hanner nos neithiwr cafodd y gwasanaethau argyfwng eu galw i adroddiad fod gwryw a benyw wedi disgyn dros wal pont ar Stryd y Frenhines, Llangollen,” meddai’r Arolygydd Tony Latham.

“Rydym yn apelio ar i unrhyw un a allai fod yn dystion i’r digwyddiad ffonio 0845 607 1001, gan ddatgan y cyfeirnod L085020.”