Mewn cynhadledd arbennig y prynhawn yma, mae aelodau cyffredin y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cymeradwyo penderfyniad eu harweinwyr i ffurfio llywodraeth glymblaid gyda’r Torïaid.
Yn ôl ffynonellau o’r blaid, dim ond tua dwsin allan o’r 2,000 o gynrychiolwyr yn y gynhadledd yn Birmingham a bleidleisiodd yn erbyn y cytundeb.
Daeth y gefnogaeth ysgubol er gwaetha’r ffaith i un o’r cyn-arweinwyr, Charles Kennedy, ddatgelu’r bore yma nad oedd wedi cefnogi’r penderfyniad i glymbleidio â’r Torïaid, a’i fod yn bryderus o’r peryglon y gallen nhw gael eu llyncu gan eu partneriaid mwy.
Cafodd yr arweinydd presennol, y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, groeso brwd gan y cynadleddwyr wrth iddo ateb cwestiynau a’r llawr, a chafodd y cynnig yn cymeradwyo’r cytundeb ei dderbyn bron yn llwyr.
“Doedd clymblaid gyda Llafur ddim yn opsiwn oherwydd doedd y niferoedd ddim yno, a’r gwir oedd fod pobl wedi pleidleisio dros gael gwared ar y llywodraeth Lafur,” meddai un o’r cynrychiolwyr, y Cynghorydd Nigel Howells o Gaerdydd. Dywedodd fod un aelod wedi gadael ei gangen yn sgil y cytundeb, ond fod tua 40 wedi mynegi diddordeb mewn ymuno.
Dogfen lawn
Cyhoeddodd y Prif Weinidog David Cameron y bore yma y bydd dogfen lawn yn pennu rhaglen bolisi’r glymblaid yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Addawodd hefyd y byddai Nick Clegg fel y Dirprwy Brif Weinidog yn rhan o’r cylch mewnol o safbwynt y penderfyniadau mawr y bydd y Llywodraeth yn eu gwneud.
Gan ddisgrifio’i hun fel “Ceidwadwr rhyddfrydol”, meddai’r Prif Weinidog:
“Yn y pen draw yr allwedd i wneud i bethau weithio yw’r bobl sy’n gweithio gyda’i gilydd a’r berthynas rhyngof fi a Nick Clegg a’r berthynas rhwng gweinidogion y Cabinet a’i gilydd – ac mae’r arwyddion cynnar yn addawol.
“Fe fydd y llywodraeth newydd yn defnyddio dulliau’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol i gyflawni amcanion blaengar.”
Llun: Y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg yn cyrraedd cynhadledd arbennig ei blaid yn y National Exhibion Centre, Birmingham y prynhawn yma (David Jones/Gwifren PA)