Am y tro cyntaf yn ei hanes, mae’r Eglwys yng Nghymru’n cynnal dydd Sul arbennig heddiw i geisio ysbrydoli plwyfolion i’r weinidogaeth.

Gyda disgwyl i chwarter clerigwyr yr Eglwys ymddeol yn ystod y degawd nesaf a llai na 10% o’i chlerigwyr presennol o dan 40 mlwydd oed, mae’r Eglwys yn wynebu argyfwng os na fydd yn llwyddo i ddenu rhagor o bobl i’w gweinidogaeth.

Mewn ymateb i hyn, bydd gwasanaethau’r Sul Gweinidogaeth a Galwad cyntaf yn rhoi sylw arbennig i glerigwyr a darpar-glerigwyr.

“Rhan o’n hymgyrch i chwilio am arweinwyr eglwysig y dyfodol a’u hysbrydoli yw Sul Gweinidogaeth a Galwad – a disgwyliwn y daw’n rhan gydnabyddedig o galendr yr Eglwys,” meddai Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron, sy’n arwain y cynllun.

“Y nod yw gwahodd holl aelodau’r Eglwys i weddïo – am i bobl gael eu galw, ac am i ni fod yn Eglwys sy’n gwahodd ac yn meithrin y sawl a alwyd.

“Rydym fel Eglwys yn dal yn argyhoeddedig bod lle pwysig o hyd i’r weinidogaeth ordeiniedig, a rhaid inni weithio i chwilio am rai a alwyd – yn enwedig ymhlith pobl iau.

“Daw’r Sul hwn ar yr union bwynt yn y Flwyddyn Eglwysig pan fyddwn yn cofio am y disgyblion yn disgwyl am awdurdod yr Ysbryd Glân. Yr ydym ninnau’n disgwyl am i Ysbryd Duw adnewyddu ein Heglwys ni heddiw.”

Llun: Y Gwir Barchedig Gregory Cameron, Esgob Llanelwy