Bydd Canghellor y Trysorlys yn lansio archwiliad annibynnol yfory – archwiliad a fydd yn edrych ar bob agwedd o wariant y Llywodraeth.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Prif Weinidog David Cameron honni bod enghreifftiau wedi dod i’r amlwg o benderfyniadau gwario “gwallgof” gan y Blaid Lafur dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd fod y penderfyniadau yma’n amrywio o neilltuo cyllideb o £1.5 biliwn ar gyfer ymgynghorwyr i daliadau bonws i 75% o uwch-weision sifil.
“Rydym wedi gweld enghreifftiau o arferion gwael iawn ac ymddygiad gwael wrth wario na fyddai’r un llywodraeth gall wedi ei wneud,” meddai David Cameron.
Dywedodd y byddai’r archwiliad, a fydd yn cael ei gynnal gan y sefydliad newydd, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebau, yn rhan o raglen ehangach i bennu cynlluniau gwario’r Llywodraeth dros y tair blynedd nesaf – cynlluniau a fydd yn cynnwys “penderfyniadau anodd” yn y mwyafrif o adrannau Whitehall.
“O’r mawr i’r bach, rydym am gymryd camau i rwystro’r penderfyniadau drwg iawn a gafodd eu cymryd yn nyddiau olaf y llywodraeth Lafur ddiwethaf,” meddai.
“Sgerbydau”
Rhybuddiodd y Gweinidog Busnes newydd, Vince Cable, hefyd fod ymrwymiadau gwario gan y Llywodraeth ddiwethaf a oedd wedi cael eu cuddio hyd yma’n dechrau dod i’r amlwg bellach.
“Mae gen i ofn fod llawer o newyddion drwg am gyllid cyhoeddus wedi cael ei guddio a’i storio ar gyfer llywodraeth newydd,” meddai. “Mae’r sgerbydau’n dechrau syrthio o’r cwpwrdd.”
Yn ôl y Sunday Times, mae enghreifftiau o ymrwymiadau gwario o’r fath yn cynnwys rhaglen gwerth £13 biliwn o awyrennau i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, contractau gwerth £420 miliwn am ysgolion newydd, a phrosiect technoeg gwybodaeth gwerth £1.2 biliwn i’r gwasanaeth mewnfudo.
Llun: Y Canghellor George Osborne – lansio archwiliad newydd i wariant y Llywodraeth