Mae Gweinidog Chwaraeon Lloegr wedi croesawu ymddiswyddiad yr Arglwydd Triesman fel cadeirydd cais Lloegr i ddenu Cwpan y Byd yn 2018.

Mae Triesman dan bwysau hefyd i roi’r gorau iddi fel cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ar ôl sylwadau yr honnir iddo’u gwneud am gymdeithasau pêl-droed Sbaen a Rwsia, sy’n cystadlu yn erbyn Lloegr i gynnal gemau 2018.

“Mae’n gwbl iawn y dylai ymddiswyddo a’i fod wedi gwneud hynny ar unwaith,” meddai’r Gweinidog Chwaraeon Hugh Robertson.

Roedd sylwadau Triesman, sy’n cael eu hadrodd yn y Mail on Sunday heddiw, wedi cael eu gwneud mewn sgwrs breifat a oedd wedi cael ei thapio’n ddiarwybod iddo.

‘Llwgrwobrwyo’

Honnir ei fod yn dweud bod Sbaen yn cynllwynio i lwgrwobrwyo dyfarnwyr yng ngemau Cwpan y Byd eleni, ac yn cynnig eu cefnogaeth i’r Rwsiaid petaen nhw’n barod i helpu.

Y gwledydd sy’n ceisio am gemau 2018 yw Lloegr, Rwsia, Sbaen a Phortiwgal ar y cyd, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg ar y cyd, Awstralia a’r Unol Daleithiau.

Roedd Lloegr wedi cyflwyno eu bid am y gemau i FIFA yn Zurich ddydd Gwener, ac mae disgwyl y bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

“Mae’n adeg tyngedfennol ar y bid,” meddai Hugh Robertson. “Cafodd ei gyflwyno ddydd Gwener, a’r farn oedd ei fod yn llwyddiant mawr.

“Mae hyn yn drist iawn i’r Arglwydd Triesman o safbwynt personol, ond dw i’n meddwl mai dyma oedd y penderfyniad iawn.”

Llun: Gweinidog Chwaraeon Lloegr, Hugh Robertson