Mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Syr George Young, wedi galw cyfarfod traws-bleidiol ar ddiogelwch Aelodau Seneddol yn dilyn ymosodiad ar gyn-weinidog Llafur yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r Aelod Seneddol Stephen Timms yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu wrth gyfarfod ag etholwyr yn East Ham ddydd Gwener. Bydd merch 21 oed yn ymddangos gerbron ynadon Stratford yfory i wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio.
Dywedodd Syr George Young fod cyfarfodydd wyneb yn wyneb ag etholwyr “yn rhan annatod o waith Aelod Seneddol” a’i bod yn bwysig sicrhau bod trefniadau diogelwch yn eu lle i’w galluogi nhw gael eu cynnal yn ddiogel.
Bydd yn cyfarfod cynrychiolwyr pleidiau eraill ac awdurdodau Tŷ’r Cyffredin yn ystod y dyddiau nesaf i drafod pa gamau i’w cymryd.
“Roedd clywed am yr ymosodiad ar Stephen Timms yn sioc fawr imi, a dw i’n gobeithio y bydd yn gwella’n fuan,” meddai.
“Mae’n hanfodol nad ydyn ni’n gadael i’r digwyddiad yma effeithio ar hawl y cyhoedd i gyfarfod eu Haelod Seneddol. Ond mae’n hanfodol hefyd fod Aelodau Seneddol yn teimlo’u bod yn gallu cyflawni eu dyletswyddau etholaethol heb deimlo’n agored i gamdriniaeth neu ymosodiad.
“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cymryd y cyfle yma i adolygu’r trefniadau diogelwch sydd ar gael mewn cymorthfeydd etholaethau, yn enwedig yn wyneb y nifer fawr o Aelodau Seneddol newydd sydd wedi cael eu hethol.”
Llun: Y cyn-weinidog Llafur Stephen Timms, sy’n gwella yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu ddydd Gwener