Mae awdurdodau Gwlad Thai wedi rhoi’r gorau i’w cynllun i orfodi cyrffiw yn rhannau o’r brifddinas Bankok.

Ar ôl i 25 o bobl gael eu lladd mewn gwrthdaro rhwng protestwyr a’r fyddin yn y ddinas dros y pedwar diwrnod diwethaf, bwriad y llywodraeth oedd cyflwyno cyrffiw yno ymhellach ymlaen heddiw

Fodd bynnag, mae’r Is-gadfridog Aksara Kerdphol, pennaeth cynorthwyol byddin y wlad, wedi dweud wrth ohebwyr nad yw’r llywodraeth bellach yn gweld yr angen i orfodi cyrffiw.

Ni roddodd esboniad am y tro pedol.

Llun: Coelcerth o deiars a gafodd ei danio gan brotestwyr yn erbyn y llywodraeth ar stryd yn Bankok y bore yma (AP Photo/Apichart Weerawong)