Parhau i waethygu y mae’r argyfwng hedfan wrth i’r Awdurdod Hedfan Sifil ymestyn ei waharddiad ymhellach i’r de i gynnwys meysydd awyr Birmingham a Norwich.

Wrth i’r cwmwl o ludw folcanig symud tua’r de a’r dwyrain heddiw, roedd meysydd awyr Manceinion a Lerpwl a rhai eraill yng ngogledd Lloegr eisoes wedi gorfod cau ers amser cinio.

Mae maes awyr Cymru Caerdydd yn dal yn agored heno, ond mae llawer o’r teithiau oddiyno wedi cael eu canslo gan fod gwaharddiadau hedfan yn eu lle dros ganolbarth a gogledd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon tan 1.00 o’r gloch fore yfory.

Mae meysydd awyr Llundain hefyd yn agored ar hyn o bryd, ond nid oes sicrwydd am ba hyd.

Llun: Owen Humphreys/Gwifren PA)