Mae’r gyntaf o’r ddwy long fferi anerth wedi cychwyn ar ei gwaith heddiw’n cludo teithwyr rhwng Lloegr a’r Iseldiroedd.

Y Stena Hollandica 64,000 tunnell a 750 troedfedd o hyd yw’r llong fferi fwyaf erioed i fod yn hwylio’n rheolaidd yn nyfroedd Prydain.

Bydd yn cludo teithwyr bob dydd ar y daith 6 awr a hanner rhwng Harwich a’r Hook of Holland.

Bydd y Stena Line yn lansio chwaer long iddi, y Stena Britannica, yn yr hydref, ar ôl buddsoddi £375 miliwn yn y ddau lestr.

Mae’r ddwy long yn gallu cludo 230 o geir yn ogystal â 1,200 o deithwyr, ac mae 538 o gabanau ynddyn nhw a phob mathau o gyfleusterau fel bwytai, dec haul a sinema ar gyfer teithwyr.

Cafodd y llongau eu hadeiladu yn iard longau Nordic yn Wismar, yr Almaen, ac maen nhw wedi cymryd tair blynedd i’w cwblhau.

Llun: Y Stena Hollandica, a gafodd ei lansio heddiw (Gwifren PA)