Yn ôl dau arolwg barn sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, y cyn-ysgrifennydd tramor David Miliband yw’r ffefryn clir ymysg y cyhoedd fel arweinydd nesa’r Blaid Lafur.

Er i’w frawd iau Ed Miliband gyhoeddi ei fod yntau hefyd am sefyll am yr arweinyddiaeth, mae’r brawd hynaf ymhell ar y blaen iddo ar hyn o bryd.

Mae disgwyl y bydd rhagor o ymgeiswyr, gan gynnwys y cyn-ysgrifennydd dros blant, Ed Balls, yn cyhoeddi y byddan nhw’n sefyll dros y dyddiau nesaf. Dywed Ed Balls y bydd yn ymgynghori â’i etholwyr dros y penwythnos cyn penderfynu a yw am sefyll ai peidio.

Mae arolwg yn y Sunday Telegraph yn rhoi David Miliband ar 32%, y Dirprwy Arweinydd Harriet Harman ar 11%, Ed Miliband ar 9%, Ed Balls ar 8% ac Andy Burnham a Jon Cruddas ar 2% yr un.

Digon tebyg yw canlyniadau arolwg yn y News of the World hefyd – David Miliband 32%, Ed Miliband 9%, Tony Blair ac Alistair Darling 7%, Jack Straw 6%, Harriet Harman ac Alan Johnson 5%, Ed Balls 4% ac Andy Burnham 1%.

Gornest ‘frawdgarol’

Mae’r brawd iau, Ed Miliband, yn mynnu na fydd yr ornest yn arwain at rwyg rhwng yn y teulu.

Wrth gyhoeddi ei fwriad i sefyll ddoe, dywedodd y byddai’n gwbl fodlon gwasanaethu o dan ei frawd David petai’n ennill, a dywedodd hefyd y byddai’n falch o weld hynny ag sy’n bosibl o ymgeiswyr.

“Rhaid i Lafur wynebu maint ein gorchfygiad a derbyn y gwirionedd anghysurus fod y blaid wedi colli cysylltiad â’r bobl y mae’n honni eu cynrychioli,” meddai.

Mae’r ffefryn David Miliband yn mynnu na fydd yr ornest am yr arweinyddiaeth yn frwydr rhwng Llafur Newydd a Hen Lafur.

“Adwaith i’r 1980au oedd Llafur Newydd, ond y drwg oedd iddo gael ei gaethiwo gan yr 1980au,” meddai’r cyn-ysgrifennydd tramor.

“Dyw’r dyfodol ddim yn ymwneud ag ail-greu Llafur Newydd. Rhaid inni ddefnyddio’r cyfnod yma i dorri’n rhydd hynny. Fy niddordeb i yw Llafur Nesaf.”

Llun: Y cyn-ysgrifennydd tramor Dave Miliband (Kate Collins/Gwifren PA)