Leinster 16 Munster 6
Fe fydd y Gweilch yn gorfod teithio i Ddulyn ar gyfer rownd derfynol Cynghrair Magners ymhen pythefnos.
Leinster a enillodd y rownd gyn derfynol yn erbyn eu cyd Wyddelod, Munster – gan mai nhw oedd ar frig y tabl cyn y gemau ychwanegol, nhw sy’n cael chwarae gartre’.
Roedd capten y Gweilch, Ryan Jones, wedi gobeithio mai Munster a fyddai’n ennill er mwyn i’r Gweilch gael chwarae yn Stadiwm Liberty.
Ond fe fydd hi’n gêm ardderchog, meddai, wrth i’r Gweilch geisio am eu teitl mawr cynta’.
Gêm galed
Gêm galed ymhlith y blaenwyr oedd yr un rhwng Leinster a Munster, gyda’r tîm o Ddulyn yn ennill ar y diwedd gydag unig gais y gêm. Cyfartal 3-3 oedd hi ar yr hanner.
Rob Kearney a gafodd hwnnw, ar ôl mynd ar ddolen o amgylch y maswr Jonathan Sexton, y dyn a giciodd weddill pwyntiau’r rhanbarth. Ronan O’Gara a gafodd bwyntiau Munster, gyda gôl gosb a gôl adlam.
Ar ôl y chwiban ola’, fe ddywedodd chwaraewr gorau’r gêm, James Heaslip, ei fod yn edrych ymlaen at wynebu’r Gweilch ar 29 Mai. “Fe ddylai fod yn gêm ardderchog,” meddai.
Llun: Ryan Jones