Fe fydd cyrffiw’n cael ei osod mewn rhannau o brifddinas Gwlad Thai wrth i’r gwrthdaro barhau rhwng milwyr a phrotestwyr.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan un o arweinwyr y fyddin, er nad yw’r union fanylion wedi eu penderfynu eto.

Fe fydd yn cyfyngu ar allu pobol i symud o le i le ar wahanol adegau.

Saethu bwledi byw

Ddoe, fe godwyd arwyddion mewn rhannau o ganol Bangkok yn rhybuddio bod bwledi byw yn cael eu saethu yno.

Ar yr un pryd, roedd cwmwl mwg yn codi tros y ddinas wrth i’r protestwyr losgi teiars ger eu gwersyll yn ardaloedd masnachol Bangkok.

Mae 16 o bobol wedi marw a thua 160 wedi cael eu brifo yn ystod y tridiau diwetha’, wrth i’r fyddin geisio atal protestiadau gan ymgyrchwyr ‘y Crysau Coch’.

Ymddiswyddiad

Maen nhw’n parhau i alw am ymddiswyddiad y Llywodraeth gan ddweud ei fod wedi ei phenodi ar gam gyda chefnogaeth y fyddin.

Y tu cefn i’r anghydfod gwleidyddol, mae yna rwyg cymdeithasol mawr – mae’r Crysau Coch yn cynrychioli pobol dlotach yr ardaloedd gwledig yn erbyn yr elît mwy dinesig.