Doedd un o gyn arweinyddion y Democratiaid Rhyddfrydol ddim o blaid ffurfio clymblaid gyda’r Ceidwadwyr.

Fe ddatgelodd Charles Kennedy ei fod wedi atal ei bleidlais a gwrthod cefnogi’r trefniant pan gafodd ei osod gerbron ASau a phwyllgor gwaith y blaid.

Mewn llythyr ym mhapur yr Observer, mae’r dyn a arweiniodd y Democratiaid yn yr etholiad cyn hwn yn dweud y byddai’n well ganddo weld cytundeb gyda Llafur.

Roedd y trefniant newydd yn tanseilio gobeithion arweinwyr tros y blynyddoedd am weld ail ddiffinio gwleidyddiaeth gwledydd Prydain i gael cytundeb i’r chwith o’r canol.

“Go brin bod syndod bod cwmpawd gwleidyddol rhai ohonon ni o leia’n teimlo’n ddryslyd,” meddai, gan ddweud y byddai wedi bod yn well gadaei’r Ceidwadwyr fod yn llywodraeth leiafrifol.

Heddiw, mae polau piniwn yn awgrymu bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli rhywfaint o gefnogaeth i’r Blaid Lafur – tua 3 phwynt.

Ond mae arolwg Ipsos Mori yn y News of the World yn awgrymu bod eu harweinydd, Nick Clegg, yn parhau’n boblogaidd, gyda 74% o gefnogwyr y Democratiaid yn cytuno â’r glymblaid newydd.

Beirniadaeth

Heddiw, fe fydd Nick Clegg yn wynebu beirniadaeth mewn cynhadledd arbennig gan y blaid ym Mirmingham. Fe fydd honno’n gallu mynegi barn, ond fydd hi ddim yn gallu newid y penderfyniad.

Trwy ennill cefnogaeth mwy na 75% o ASau a Phwyllgor Gwaith y blaid nos Fawrth, roedd Nick Clegg yn osgoi’r angen i ofyn am ganiatâd y blaid ehangach.

Charles Kennedy oedd yr unig un o gyn arweinwyr y blaid i wrthod cefnogi bryd hynny ond mae yna awgrym bod gan eraill – fel Paddy Ashdown, Menzies Campblell a David Steel – amheuon.

Y disgwyl yw y bydd y gynhadledd yn galw ar y blaid i wrthod cyfaddawdu ar faterion fel ffioedd myfyrwyr, codi Treth ar Werth ac Iran.

Llun:

Llun: Charles Kennedy (moniker42-CCA2.0)