Fe fydd rhagor o drafferthion i deithwyr awyr yn ystod yr wythnos nesa’, gyda dydd Mawrth yn debyg o fod yn arbennig o anodd.

Mae cwmwl lludw unwaith eto wedi arwain at atal awyrennau tros rannau o wledydd Prydain heddiw a’r disgwyl y bydd yn lledu ymhellach yn ystod y deuddydd nesa’.

Erbyn dydd Mawrth, mae’r proffwydi tywydd yn dweud y bydd yn effeithio ar feysydd awyr ardal Llundain, ar yr union ddiwrnod y mae criwiau caban British Airways yn dechrau ar streic bum niwrnod.

Y bore yma, mae meysydd awyr wedi eu cau yn Ynys Manaw a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys y prif faes awyr ym Melffast. Mae nifer o deithiau yno wedi eu canslo.

Mae’r cwmwl lludw folcanig, sy’n symud yn gyflym ar y gwynt i gyfeiriad gwledydd Prydain, yn arwydd o ragor o gynnwrf yn llosgfynydd Euyjallajolull yng Ngwlad yr Iâ.

Mae’r llywodraeth newydd wedi dechrau cyhoeddi rhagolygon tywydd pum niwrnod gyda bwletinau bob chwe awr oherwydd bod amgylchiadau’n newid.

Llun: Awyrennau BA – streic a lludw ddydd Mawrth