Mae un o chwaraewyr pêl-droed ifanc Abertawe wedi marw’n sydyn yn ddim ond 22 oed.
Fe gadarnhaodd gwefan y clwb bod y blaenwr Besian Idrizaj wedi marw yn ei gwsg nos Wener yn ei gartref yn Awstria.
Y gred yw ei fod wedi cael trawiad ar y galon ond does dim rhagor o fanylion swyddogol ar hyn o bryd.
“Dyw union achos y farwolaeth ddim wedi cael ei gadarnhau eto,” meddai’r clwb. “Mae ein meddyliau ni gyda’i deulu, ei ffrindiau a’i gyd-chwaraewyr.”
Mae cefnogwyr Abertawe hefyd wedi bod yn gadael negeseuon ar wefannau cymdeithasol. “Dyw’r torcalon o golli yn y gemau ail gyfle’n cyfri dim,” meddai un.
Roedd Idrizaj wedi ymuno gydag Abertawe ym mis Awst 2009 ar ôl tair blynedd gyda Lerpwl.
Er nad oedd yn y tîm cyntaf eleni, roedd wedi sgorio’n gyson i’r ail dîm ac roedd rhai wedi disgwyl y byddai’n gwneud marc y tymor nesa’.
Llun (swanseajack4life CCA3.0)