Mae merch ifanc a ddioddefodd anafiadau gan gynnwys niwed i’w hymennydd mewn damwain car difrifol wedi’i henwi yn Ddysgwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli 2010.

Enillodd Zara Roberts, 24 mlwydd oed, o Langollen, y wobr ar ôl cael ei dewis gan banel o feirniaid annibynnol, a ddywedodd ei bod hi’n “llysgennad ac ysbrydoliaeth” i eraill ym maes addysg oedolion yng Nghymru.

“R’yn ni yma i gydnabod a dathlu dysgwyr yng Nghymru,” meddai Jane Hutt, y Gweinidog Busnes a’r Gyllideb, wrth gyhoeddi’r wobr.

“Rwy’n llawn edmygedd, ac mewn nifer o achosion, yn rhyfeddu at gymaint yr ydych wedi’i gyflawni.”

Dywedodd fod Addysg Oedolion yn “gonglfaen i’n gweledigaeth o Gymru fel gwlad sy’n dysgu”.

Y ddamwain

Yn 2004 roedd Zara Roberts mewn damwain car difrifol, wrth deithio i’r brifysgol i hyfforddi fel athrawes anghenion arbennig.

“Cefais niwed trawmatig i’r ymennydd, torrais bum asen, roedd gen i dwll yn fy ysgyfaint, torrais fy mhelfis, penelin a ffêr, a rhwygais yr aorta sy’n dod i lawr o’m calon,” meddai Zara.

“Roedd yn rhaid i mi ail ddysgu siarad, cerdded a gwneud popeth o’r dechrau fel baban.”

Ond, er ei bod hi’n wynebu anawsterau enfawr, brwydrodd Zara yn ei blaen a llwyddo i gael NVQ mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion Lefel 2.

Ymysg enillwyr gwobrau eraill y gystadleuaeth oedd Scott Quinnell, y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol.