Chelsea 1-0 Portsmouth
Mae Chelsea wedi ennill y Cwpan FA a’r dwbl cyntaf yn eu hanes, ar ôl ennill yr Uwchgynghrair yr wythnos diwethaf.
Roedd gan Chelsea sawl cyfle yn erbyn Portsmouth ond dim ond un gôl llwyddon nhw i’w sgorio, yn yr ail hanner, drwy Didier Drogba.
Roedd o’n gêm derfynol hanesyddol am reswm arall – y tro cyntaf i ddwy gic gosb gael ei methu mewn un gêm derfynol.
Fe allai Chelsea fod wedi sgorio sawl gôl arall ar ôl rheoli geê yn erbyn cystadleuydd fydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.
Methodd Salomon Kalou gol agored ar ôl 26 munud a tharodd John Terry y croesfar tair munud yn ddiweddarach.
Roedd o’n edrych fel pe bai seren y gêm, Didier Drogba wedi sgorio ar ôl 35 munud ar ôl i’w gic rydd fownsio oddi ar y croesfar a tharo’r gwyngalch cyn bownsio am allan.
Dim ond unwaith daeth Portsmouth yn agos at sgorio gôl wrth ymosod, pan safiodd Petr Chech bel gan Frederic Piquionne.
Er nad oedden nhw wedi chwarae’n dda edrychai fel pe bai Portsmouth ar fin dwyn y gêm ar ôl 55 munud pan daclodd Juliano Belletti chwaraewr Portsmouth, Aruna Dindane yn y blwch cosb ac fe benderfynodd y dyfarnwr eu bod nhw’n haeddu cic o’r smotyn.
Ond safiodd Petr Chech y gic o’r smotyn gan Kevin-Prince Boateng, a sgoriodd Chelsea unig gol y gêm drwy gic rydd Didier Drogba tair munud yn ddiweddarach.
Methodd Frank Lampard gyfle i sgorio ail gyda chic o’r smotyn ar ôl 87 munud ond roedd o’n rhy hwyr i Portsmouth frwydro’n ôl a chipiodd Chelsea y Gwpan.