Mae yna beryg y bydd awyrennau yn cael eu hatal rhag hedfan o fory ymlaen oherwydd mwy o lwch folcanig o Wlad yr Iâ, rhybuddiodd yr Adran Drafnidiaeth.
Fe allai’r problemau barhau tan ddydd Mawrth ac effeithio rhai o feysydd awyr prysuraf Prydain yn y De Ddwyrain, meddai’r llywodraeth.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Philip Hammond mai diogelwch teithwyr oedd blaenoriaeth y llywodraeth.
O heddiw ymlaen bydd rhagolygon pum diwrnod ar gyfer llwch folcanig yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Swyddfa Dywydd.
Mewn datganiad dywedodd y Llywodraeth mae rhagolygon hapfasnachol yw’r rhain ac nad oedd hi’n bosib bod yn hollol sicr ynglŷn â beth fyddai effaith y llwch.
“O fewn y cyfnod yma, mae gwahanol rannau o’r awyr dros Brydain – gan gynnwys yr awyr dros y De Ddwyrain – yn debygol o gael eu cau ar wahanol adegau.”
Maen nhw’n cynghori unrhyw deithwyr i tsecio gyda’r cwmni sy’n trefnu eu hawyren cyn teithio i’r maes awyr.