Mae dyn wedi’i gadw yn y ddalfa heddiw ar ôl iddo ymddangos o flaen llys wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn ar stepen ei ddrws.

Cafodd Joseph Hylton, 21, oedd yn ddi-waith ac yn byw mewn hostel, ei saethu’n farw ar Ffordd Mount Pleasant, Tottenham, Gogledd Llundain ar ddydd Gwener, 7 Mai.

Ymddangosodd Junior Collier, 27o flaen Llys Ynadon Highbury Corner heddiw wedi’i gyhuddo o’i lofruddiaeth.

Fe fydd yn cael ei gadw’n yn y ddalfa tan ddydd Mawrth pan fydd yn ymddangos o flaemn Llys yr Old Bailey yn Llundain.

Mae bachgen ifanc arall 16 blwydd oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth Joseph Hylton wedi ei ryddhau ar fechnïaeth, wrth i’r ymchwiliadau barhau.