Mae merch 16 mlwydd oed o Awstralia wedi cyrraedd terfyn ei thaith o amgylch y byd mewn cwch hwylio pinc, heddiw.

Jessica Watson yw’r morwr ifancaf erioed i deithio o amgylch y byd ar ei phen ei hun yn ddi-dor, cyn cymryd ei chamau cyntaf ar dir sych ers 210 o ddiwrnodau.

Roedd miloedd o wylwyr, gohebwyr a newyddiadurwyr yn disgwyl amdani heddiw wrth iddi hwylio i mewn i harbwr Sydney.

“Roedd hi wedi dweud y byddai’n hwylio o amgylch y byd, ac mae hi wedi llwyddo,” meddai ei mam Julie Watson cyn ychwanegu ei bod hi “gytre”.

‘Llwyddo’

Hwyliodd Jessica Watson o Buderim, yng ngogledd Brisbane yn nhalaith Queensland ar Hydref 18.

Roedd hi a’i theulu wedi wynebu beirniadaeth ei bod hi’n rhy “anaeddfed” ac “amhrofiadol” i gyflawni’r daith.

Ond roedd ei rhieni yn dweud ei bod wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer yr orchwyl ac wedi bod yn hwylio ers ei bod hi’n ferch wyth oed.

Mae’r Prif Weinidog Kevin Rudd eisoes wedi ei galw hi’n arwr. Ond dywedodd Jessica Watson wrth y dyrfa nad oedd hi’n ystyried ei hun yn arwr, ond yn hytrach yn “ferch gyffredin a gredodd yn ei breuddwyd”.