Mae grŵp ymgyrchu yng Nghymru wedi creu ffilm newydd er mwyn hyrwyddo’r gofrestr rhoddi organau.

Am y tro cyntaf, mae’r ffilm yn dangos cleifion go iawn o Gymru sy’n disgwyl am drawsblaniadau.

Neges y ffilm gref yw bod disgwyl am organ i’r cleifion hyn fel disgwyl am farwolaeth ar ‘death row’ y carchar.

“Mae gan y DU un o’r cyfraddau rhoi organau isaf yn y byd datblygedig,” meddai Roy J. Thomas, Cadeirydd Rhodd Cymru ac Aren Cymru.

“Dyna pam ydan ni wedi dangos cleifion go iawn yn ein hysbyseb ac nid actorion, fel sy’n cael eu defnyddio yn hysbysebion y llywodraeth.

“Mae pobl yn teimlo eu bod nhw ar ‘death row’ yn disgwyl am organau. Dw i’n herio unrhyw un i wrthod y cyfle am fywyd go iawn i’r bobl yma,” meddai.

‘Cardiau’

Er bod y gofrestr rhoddwyr organau yn bwysig, mae polisi’r llywodraeth o ofyn i bobol gario cerdyn yn dweud eu bod nhw’n cytuno i roi eu horganau yn hen ffasiwn, meddai.

“Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers yr 1980au ac mae’n hen bryd symud ymlaen fel y rhan fwyaf o wledydd datblygedig, er mwyn achub mwy o fywydau.”

Dywedodd Roy Thomas ei fod o’n annog system ble y byddai’r wlad yn cymryd yn ganiataol y cai organau’r meirw fynd i helpu eraill os nad yw unigolion yn dweud yn wahanol cyn eu marwolaeth.