Roedd Vince Cable wedi dweud wrth Gordon Brown sawl gwaith nad oedd o eisiau mynd i mewn i glymblaid gyda’r Ceidwadwyr, yn ôl papur newydd y Times heddiw.
Roedd Vince Cable, dirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi pwysleisio wrth Gordon Brown nad oedd y clymblaid yn “ddewis dymunol” iddo.
Yn ôl y Times roedd yr Ysgrifennydd Busnes newydd a’r cyn Brif Weinidog wedi siarad sawl gwaith yn ystod y penwythnos yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae’n debyg fod Nick Clegg, y Dirprwy Brif Weinidog newydd, hefyd wedi dweud wrth Gordon Brown y byddai aelodau ei blaid yn ymddiswyddo pe bai’n dod i gytundeb gyda’r Ceidwadwyr.
Mae’r papur newydd hefyd yn honni bod rhai Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn siarad gyda’r Blaid Lafur yn bennaf er mwyn gwella cynnig y Ceidwadwyr.
Bydd Nick Clegg yn wynebu aelodau cyffredin o’i blaid mewn cynhadledd arbennig yn Birmingham yfory er mwyn ymateb i rai o’r cwynion eu bod nhw wedi troi cefn ar faniffesto’r blaid.
Gwahoddiad Plaid
Mae Plaid Cymru wedi apelio ar aelodau o’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru sy’n anhapus gyda’r llywodraeth glymblaid newydd i ymuno gyda nhw.
Dywedodd Jonathan Edwards, AS newydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, bod y Dems Rhydd wedi cefnu ar eu credoau craidd er mwyn cipio pŵer.
“Mae Plaid Cymru yn cynnig cartref i unrhyw un adain chwith sy’n rhannu ein gweledigaeth,” meddai.
Condemniodd yr AC Leanne Wood arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams am “gwtshio lan gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, Cheryl Gillan”.