Mae erlynwyr yn Los Angeles wedi cwrdd â actores o Brydain sy’n honni bod y cyfarwyddwr Roman Polanski wedi ei chamdrin hi’n rhywiol pan oedd hi’n 16 oed.
Dywedodd Charlotte Lewis, 42 oed, bod y cyfarwyddwr wedi ei cham drin hi yn y “ffordd waethaf posib” yn ei fflat ym Mharis yn 1980.
Ni wnaeth Charlotte Lewis gynnig unrhyw dystiolaeth a rhwystrodd ei chyfreithiwr Gloria Allred hi rhag ateb cwestiynau yn ystod y cyfarfod gyda’r wasg yn ei swyddfa.
Ond dywedodd Gloria Allred fod Charlotte Lewis wedi darparu tystiolaeth i dditectif a swyddogion o swyddfa twrnai Sir Los Angeles.
“Mae ein ditectifs wedi cynnal cyfweliad ond dyw’r adran heb ddechrau ymchwiliad,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu yno.
Ymddangosodd Charlotte Lewis yn ffilm Pirates gan Roman Polanski yn 1986.
“Cymerodd o fantais ohona’i a rydw i wedi byw gyda canlyniadau ei ymddygiad ers iddo ddigwydd,” meddai Charlotte Lewis. “Yr oll ydw i ei eisiau yw cyfiawnder.”
Mae Roman Polanski, cyfarwyddwr sydd wedi ennill gwobrau Oscar am Rosemary’s Baby, Chinatown a The Pianist, wedi ei garcharu yn ei gartref yn y Swistir.
Mae o wedi ei gyhuddo o dreisio merch 13 oed yn nhŷ Jack Nicholson yn Los Angeles yn 1977.
Plediodd yn euog i ryw angyfreithlon ond dihangodd i Ffrainc cyn cael ei ddedfrydu. Roedd o ar ffo tan i awdurdodau’r Swistir ei arestio ar 26 Medi y llynedd ar warant o’r Unol Daleithiau.
Dywedodd Charlotte Lewis ei bod hi wedi penderfynu gwneud ei chyhuddiad yn gyhoeddus ar ôl clywed bod Roman Polanski yn brwydro’n erbyn cael ei alltudio i’r Unol Daleithiau.