Mae Llys yn China wedi dedfrydu dyn i farwolaeth ar ôl iddo anafu 29 o blant ysgol a tri o’u hathrawon, fis diwethaf.

Roedd yr ymosodiad ar Ebrill 29 yn un o bum ymosodiad tebyg yn erbyn plant ysgol yn y ddeufis diwethaf. Mae 17 wedi marw a 50 wedi’u hanafu.

Heddiw, cafwyd Xu Yuyuan yn euog yn Llys Taizhou yn nwyrain talaith Jiangsu o geisio llofruddio, yn ôl newyddion Xinhua.

Dywedodd Xu Yuyuan, sy’n 47 mlwydd oed, ei fod o’n flin gyda’r gymdeithas yr oedd o’n byw ynddo.

Mae China wedi gorchymyn mesurau diogelwch llymach mewn ysgolion ar ôl ymosodiad arall ddydd Mercher diwethaf, y gwaethaf eto.

Yn yr ymosodiad diweddaraf, fe wnaeth dyn dorri i mewn i ysgol gyda chyllell gan ladd saith o blant a dau oedolyn.

Yn ôl adroddiadau, roedd y dyn yn dioddef o iselder ac yn ystyried ei ladd ei hun.