Y Gweilch 20 Glasgow 5

Mae’r Gweilch wedi ennill eu lle yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Cynghrair Magners gyda buddugoliaeth yn erbyn Glasgow yn Stadiwm Liberty.

Fe sgoriodd y rhanbarth Cymreig ddau gais i sicrhau’r fuddugoliaeth a’r cyfle i gipio’r bencampwriaeth yn erbyn naill ai Leinster neu Munster ar 29 Mai.

Sgoriodd y Gweilch gais cyntaf y gêm ar ôl i Glasgow golli meddiant, gydag asgellwr Cymru, Shane Williams yn casglu’r bêl a churo’r amddiffynfa i lawr yr ystlys cyn croesi’r llinell gais.

Roedd yna amheuon, er hynny, fod ei droed wedi cyffwrdd a’r ystlys cyn croesi’r llinell gais.

Methodd maswr Glasgow, Dan Parks, ddwy gic gosb yn ystod yr hanner cyntaf, ac fe orffennodd yr hanner gyda’r Gweilch 7-0 ar y blaen.

Ail hanner

Fe darodd yr Albanwyr ‘nôl yn syth wedi’r egwyl gyda’r bachwr, Bernard Thomson, yn sgorio cais wedi dwy funud.

Ond ‘nôl daeth y Gweilch eto gyda Dan Biggar yn llwyddo gyda chic gosb cyn i James Hook ddangos ei ddoniau i sgorio cais da trwy fylchu a dilyn ei gic tros yr amddiffyn.

Roedd y Gweilch yn rheoli’n llwyr wedi hynny ac fe ychwanegodd Biggar gic gosb arall i sicrhau buddugoliaeth 20-5.