Mae gwraig capten Lerpwl, Steven Gerrard wedi dweud wrth lys bod lladron wedi bygwth cipio’i phlant wrth iddyn nhw geisio dwyn o’r cartref.
Fe glywodd Llys y Goron Lerpwl bod grŵp o ddynion wedi torri i mewn i gartref y pêl droediwr a’i wraig Alex Curran, tra oedd Gerrard yn arwain ei dîm i fuddugoliaeth yn erbyn Marseille yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Fe ddaeth y manylion i glawr ar ôl i un o’r dynion, Martin Wilson, bledio’n euog i ladrata.
Roedd Alex Curran gartref yng nghartre’r teulu yn Formby, Glannau Mersi, gyda’i dau blentyn a nani’r teulu, Lyndsey Johnston.
Roedd y menywod yn eu hystafelloedd gwely pan glywson nhw sŵn mawr i lawr y grisiau. Fe waeddodd Alex Curran ar y lladron i adael, ond roedden nhw’n mynnu cael gwybod ble oedd y sêff a’r gemwaith.
Pan wadodd hi bod sêff, fe wnaeth un o’r lladron fygwth mynd â’r plant. Yn y diwedd, fe fethon nhw â chario’r sêff o’r tŷ oherwydd y pwysau. Ar ôl methu ag amharu ar y system camerâu cyfyng yn y tŷ fe ddihangodd y lladron.
Cafodd Martin Wilson ei ddal ar ôl i’r heddlu dadansoddi galwadau ar ei ffôn symudol. Fe gafodd chwe blynedd ac wyth mis o garchar ar ôl cyfaddef i’r drosedd.
Llun: Steven Gerrard (Nifgel Wilson CCA2.0)