Mae arweinydd myfyrwyr yn dweud y bydd llawer yn cael eu siomi’n fawr os bydd ASau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn torri eu haddewid i wrthwynebu codi ffioedd prifysgol.

Mae’r pwnc yn llosg iawn yn etholaeth Ceredigion, lle’r oedd rhwng 2,000 a 3,000 o fyfyrwyr wedi pleidleisio a’r Democrat Rhyddfrydol, Mark Williams, wedi ennill o fwyafrif mawr.

Yno, mae llywydd yr undeb yn cyhuddo’r blaid o ddibrisio pleidlais myfyrwyr oedd wedi eu cefnogi oherwydd yr addewid.

Mae cefnogwyr Plaid Cymru yn yr etholaeth yn anhapus bod myfyrwyr y Brifysgol yn Aberystwyth wedi cael eu cofrestru i bleidleisio yng Ngheredigion yn hytrach na’u hetholaethau cartref.

Mae Golwg360 wedi bod yn ceisio cael ymateb gan Mark Williams, ond doedd e ddim ar gael.

Clymblaid

Er bod pob un o ASau’r Democratiaid wedi arwyddo addewid yn erbyn y ffioedd, mae’n ymddangos yn awr y byddan nhw’n atal eu pleidlais – dyna ran o’r cytundeb i greu clymblaid gyda’r Ceidwadwyr.

Yn ôl Jon Antoniazzi, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, roedd nifer o fyfyrwyr yng Ngheredigion ac ar draws Prydain wedi pleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol oherwydd eu haddewidion am ffioedd dysgu a ffioedd uwch.

“Os bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymatal rhag pleidleisio yn erbyn cynyddu ffioedd uwch, maen nhw’n mynd i danseilio pleidlais nifer fawr o bobol a bleidleisiodd drostyn nhw,” meddai.

Seddi allweddol

“Mae’n bwysig cofio bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi tyrru i arwyddo’r addewid Pleidleisio dros Fyfyrwyr, gan wneud addewidion i filoedd o fyfyrwyr yn y broses.

“Roedden nhw’n pwysleisio mai hynny oedd un o brif elfennau eu hymgyrchoedd mewn seddi allweddol lle mae niferoedd mawr o fyfyrwyr.”

Fory, fe fydd mudiad y Democratiaid Rhyddfrydol Ifanc yn trafod y mater – maen nhw’n debyg o feirniadu’r newid safbwynt a galw ar ASau’r Democratiaid i bleidleisio yn erbyn y ffioedd uwch.

Llun: Prifysgol Aberystwyth – Hen Goleg