Mae noson arbennig yn cael ei chynnal heno i gofio’r Archdderwydd Dic Jones.
Mae teulu’r bardd yn rhoi cadair Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Ceredigion eleni er cof amdano. Fe fydd yn cael ei throsglwyddo i’r mudiad heno.
Eisoes, ychydig wythnosau cyn ei farw, roedd yr Archdderwydd a enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith yn olynol – wedi trafod ei weledigaeth ar gyfer y gadair gyda’r gwneuthurwr a ffrind mawr iddo, Glan Rees.
‘Syml’
“Roedd Dic yn bendant iawn mai cadair syml, fodern ddylai hon fod,” medd Glan Rees sy’n byw yn Nhrefdraeth ac yn gyn brifathro Ysgol Bro Ingli.
“Ar yr olwg gyntaf, mae hon yn gadair syml ond, o edrych yn fwy gofalus, fe welwch ddelweddau cryf a phendant iawn; ffrwyth sgwrs gyda Dic, Jean ei wraig a minnau rhyw fis cyn i ni golli Dic.”
Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a Deian Creunant, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ceredigion 2010 fydd yn derbyn y gadair gan deulu’r diweddar Dic Jones a’i dri ŵyr, Bedwyr, Peredur ac Ynyr Lloyd Jones.
Bydd y noson yn cael ei chynnal yn Neuadd Aberporth yng nghwmni aelodau Aelwyd Emlyn a disgyblion Ysgol Gynradd Blaenporth, cyn ysgol y bardd.
‘Parch a chariad’
“Mae’r gadair wedi ei gwneud o barch a chariad at Dic,” meddai Jean, gweddw Dic Jones.
“Roedden ni’n ffodus fod Glan wedi dod i’n gweld pan ddaeth e. Roedd Dic yn ei bethe ac fe gawsom ni drafod y steil a’r delweddau a dwi’n gwybod y bydde Dic wrth ei fodd gyda’r gadair orffenedig.”
“Rydym yn ddiolchgar iawn i deulu’r diweddar Archdderwydd Dic Jones am roddi’r gadair yma i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 2010 er cof amdano,” medd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru.
“Dic Jones yw’r unig un i ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith yn olynol a braf fydd cydnabod y gamp honno ymysg yr anrhydeddau eraill a ddaeth i’w ran fel bardd dros yr wythnosau nesaf.”
Llun: Dic Jones a’i wraig Sian (Jean)