Mae Parc Siopa Tonysguboriau ger Llantrisant wedi dethol pedwar wyneb allan o fôr o ymgeiswyr ledled De Cymru i fod yn rhan o’u hymgyrch hyrwyddo ffasiwn i fenywod go iawn.

Ymhlith yr enillwyr mae’r Gymraes Gymraeg ifanc, Elena Williams, o Graigwen ger Pontypridd. Cyn bo hir fe fydd ei hwyneb ar bosteri ar fysiau ar hyd a lled y De.

Roedd y gystadleuaeth, a gynhaliwyd ar y cyd gyda champws ATRiuM Prifysgol Morgannwg, yn rhan o ymgyrch ‘Real Life Style’ y ganolfan siopa, sy’n anelu at ddod â ffasiynau’r catwalk i’r stryd fawr mewn ffordd sy’n siwtio steil, cyllid a siâp merched cyffredin.

Arddegau

A hithau’n “hoff o wisgo pethau cyfoes a chiwt”, Elena sy’n cynrychioli merched yn eu harddegau – addas iawn felly oedd ei bod wedi derbyn y newyddion tra’n dathlu ei phen-blwydd yn 16 oed!

“Un o’r rhesymau pennaf dros gystadlu oedd mod i’n cael canolfan siopa Talbot Green yn haws ei chyrraedd na Caerdydd ,” meddai. “Ond yn sicr ro’n i’n hoff iawn o’r syniad eu bod yn cynrychioli menywod go iawn – rwy’n go fyr yn 5’4”, felly roedd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle i fi gael blas o fyd ffasiwn!”.

Y tair arall oedd yn derbyn bob i daleb £250 gan y ganolfan siopa oedd ‘Y Fyfyrwraig Fedrus’, sef Sarah MacDonagh o Lantrisant, Y ‘Yummy Mummy’ Kate Hughes o Gwm Rhondda, a Sara Davies o Bentyrch oedd yn cynrychioli categori’r ‘Deugeiniau Dedwydd’.

Bwrlwm Byd Ffasiwn

Meddai Elena “Yn arwain fyny at y photoshoot diweddar, roedd myfyrwyr cwrs ffasiwn yr ATRiuM wedi bod wrthi ers wythnos yn cystadlu am y cyfle i steilio’r pedair ohonon ni ar gyfer
lluniau hysbysebu a hyrwyddo’r parc siopa dros y 12 mis nesaf.

“Deuddeg ohonyn nhw oedd yn cyrraedd y rownd derfynol, gan fynd ati i brynu a steilio dillad amrywiol o siopau ffasiwn Tonysguboriau – ro’n i mewn playsuit flodeuog un funud ac wedi’n steilio fel Alice in Wonderland y nesaf!.

“Yn bennaf y panel beirniadu, yn cynnwys arweinwyr cyrsiau ffasiwn yr Atrium a chynrychiolwyr Talbot Green oedd yn dewis y pedwar enillydd terfynol, ac ro’n i’n reit hapus gyda ‘ngwisg fuddugol i, sef het wellt a sanau hir yn syth allan o ŵyl gerddorol hafaidd!.

“Erbyn y diwedd ro’n i wedi blino’n lan ac wedi cael diwrnod arbennig – doedd ‘na ddim amser i eistedd lawr rhwng gwneud cyfweliad gyda’r ‘Echo’, bwrlwm y photoshoot, a’r seibiau colur cyson – cyffrous iawn!”.

Y pedair model

Wyneb ar gefn bws…

Felly, wedi profi’n fodel, er yn fyr, oes yna yrfa bosib ar y gorwel?

“Dw ‘ni dal i astudio ar gyfer TGAU yn Ysgol Gyfun Gymraeg Gartholwg ar y funud ond yn fy amser sbâr, dw i hefyd yn aelod o glwb actio a chanu ‘Stagecoach’ ym Mhontypridd ac fe fydde dilyn gyrfa ym maes drama neu’r cyfryngau yn siwtio cystal â ffasiwn”.

“Wedi dweud hynny, yn bendant y profiad ffasiwn sy’n fy nghyffroi ar hyn o bryd… erbyn Mehefin 1af, bydd llun ohona i ar fysus a thacsis ledled De Cymru – mae fy ffrindiau i’n mynd i fynd yn wallgo oherwydd cyffro!”