Dyn hiliol sy’n credu mai pobol wyn sydd orau yw’r cyntaf i gael ei anfon i garchar am gynhyrchu arf cemegol.

Fe gafodd Ian Davison, 42 oed o Swydd Durham, ei garcharu am ddeng mlynedd ar ôl ei gael yn euog o gynhyrchu digon o’r cemegyn ricin i ladd naw person. Roedd yn cadw’r cemegyn mewn potel yn y gegin.

Fe gafodd ei fab 19 oed, Nicky Davison, ei garcharu am ddwy flynedd hefyd.

Dilyn Hitler

Dywedodd yr erlynydd, Andrew Edis QC bod Ian Davison yn un o 350 aelod o’r grŵp hiliol Ayran Strike Force (ASF) sy’n dilyn ideoleg Adolf Hitler.

“Roedd Ian Davison yn aelod blaenllaw o’r ASF – grŵp neo-Natsiaidd a oedd wedi ymroi i ddefnyddio trais,” meddai.

“Pwrpas eu trais oedd creu grŵp Ariaidd rhyngwladol a fyddai’n sefydlu goruchafiaeth i’r dyn gwyn mewn gwledydd gwyn.”

Gwenwyno dŵr

Fe glywodd y llys nad oedd y grŵp wedi targedu neb yn benodol, ond roedden nhw wedi cynnal gwersyll hyfforddi yn Cumbria yn ogystal â gwneud ffilmiau hyrwyddol.

Roedd Ian Davison hefyd wedi bod mewn cysylltiad gyda Natsi o Serbia a’r ddau wedi trafod gwenwyno cyflenwad dŵr i Foslemiaid.

Mae disgwyl i aelodau eraill o’r grŵp hiliol wynebu achosion llys yn hwyrach yn y flwyddyn.