Mae un o chwaraewyr tîm criced amatur Cymru wedi dweud ei fod yn ffyddiog o lwyddiant wrth herio’r MCC yn Lords yr wythnos nesaf.

Bydd tîm Cymru, sydd wedi ei ddethol o chwaraewyr gorau clybiau criced Cymru, yn chwarae eu gêm gyfeillgar flynyddol yn erbyn MCC ddydd Llun nesaf.

Mae Gary Williams, sy’n chwarae i Glwb Criced Tre-gŵyr yn ogystal â bod yn aelod o dîm Cymru ers 2002, yn hyderus bod cyfle ganddyn nhw i guro’r clwb criced byd enwog ar eu tir eu hunain.

“Mae gyda ni gyfle da i ennill – r’yn ni wedi eu maeddu nhw yn y gorffennol,” meddai Gary Williams.

Fel arfer mae Cymru yn chwarae’r MCC – y Marylebone Cricket Club – mewn gêm dri diwrnod ond, oherwydd bod y gêm yn cael ei chynnal yn Lord’s eleni, does dim ond amser am gêm un dydd.

Llwyddiant yn Lord’s

Pob tair blynedd mae tîm Cymru’n yn wynebu MCC yn Lord’s, ac yn 2007, fe lwyddodd y tîm amatur i ennill.

“Roedd cael chwarae yn Lord’s yn brofiad gwych,” meddai Gary Williams, a oedd yn aelod o’r tîm hwnnw. “Mae yna gymaint o hanes i’r lle ac roedd yn braf i gael bod yn y pafiliwn.

“R’yn ni wedi bod yn llwyddiannus yng nghynt yn erbyn y MCC, gan eu curo nhw’n eithaf hawdd yn 2007 yn ogystal â gêm gyfartal yn eu herbyn nhw llynedd.”

Wynebu chwaraewyr rhyngwladol

Fe fydd tîm Cymru’n ymwybodol eu bod nhw’n wynebu gêm digon anodd yr wythnos nesaf, gyda thîm y MCC yn gymysgedd o chwaraewyr rhyngwladol a thalent addawol y dyfodol.

Yn y gorffennol mae timau’r MCC wedi cynnwys chwaraewyr fel Hamish Marshall, James Marshall, Matthew Bell, Richard Illingworth a Matthew Flemming.

Ond mae gan dîm Cymru ddigon o chwaraewyr profiadol gyda dros hanner y garfan bresennol eisoes wedi cael y profiad o chwarae yn Lord’s.

Llun: Y Pafiliwn yn Lord’s (CCA2.5)