Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n edrych ar y gwaith o godi arian a hyrwyddo Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent…

Mae Wythnos Addysg i Oedolion 2010 yn dechrau yfory, wythnos bwysig i hyrwyddo cyfleoedd addysg i bawb o bob oed, rhoi cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd ac i ail-gynnau diddordeb mewn pynciau o bob math.

Y penwythnos diwethaf roedd rhai o’r tîm yn Ysgol Glyncoed, Glyn Ebwy, i ddewis pedwar cystadleuydd ar gyfer rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn.  Fel arfer roedd y safon yn eithriadol o uchel, ac fel arfer roedd cynulleidfa arbennig o dda wedi dod i gefnogi’r ymgeiswyr, ond eleni, roedd mwy o gyffro nac arfer – roedd pawb wrth eu boddau bod cynifer wedi cystadlu – naw ar hugain o bobl – y nifer mwyaf erioed!

Roedd y naw ar hugain yn dod o bob math o gefndiroedd,  ac i gyd gyda rhesymau gwahanol a phersonol dros fynd ati i ddysgu’r Gymraeg.  Bwriad dydd Sadwrn oedd rhoi cyfle i’r beirniaid gael sgwrs gyda phawb ac yna, yn y prynhawn, i’r rhai ar y rhestr fer gael cyfweliad ar gyfer y rownd derfynol.  Yn ôl y sôn, roeddan nhw’n ardderchog, ac ar ddyddiau fel yna, rwy’n falch iawn mai trefnu’r Eisteddfod y bydda i, a nid gorfod dewis enillydd neu fuddugwyr!

Ac fe fum yn meddwl wedyn am y gystadleuaeth hon a pha mor bwysig yw gwobrwyo a chefnogi’r rheini sy’n mynd ati i ddysgu’r iaith.  Un o amcanion yr Eisteddfod Genedlaethol yw annog pobl i fynd ati i ddysgu Cymraeg ac i gymryd diddordeb yn yr iaith a’n diwylliant, ac mae’n gyfrifoldeb bwysig iawn, yn enwedig mewn ardal fel Blaenau Gwent.  Roeddwn yn meddwl eto am eiriau Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Richard Davies, pan apeliodd am gefnogaeth pobl Cymru, gan ddweud:

“Dyma ein Eisteddfod ni.  Dyma’n cyfle ni fel siaradwyr Cymraeg, dysgwyr yr iaith a’i chefnogwyr lu i greu cyfleoedd diwylliannol ac ieithyddol i’n cymunedau lleol.  Mae’n gyfrifoldeb arnom oll i gofleidio’r gefnogaeth yma at yr iaith, ac i sicrhau bod yr Eisteddfod eleni yn tanio dychymyg y rhain a phawb arall yng  Nghymru.”

Mae geiriau Richard – un a fagwyd yn lleol, a sydd erbyn hyn yn dysgu mewn ysgol Gymraeg yn y dalgylch – yn bwysig, nid yn unig i ardal yr Eisteddfod, ond i Gymru gyfan, ac mae o’n iawn i ddweud bod cyfrifoldeb arnom ni oll i groesawu – i gofleidio hyd yn oed – y gefnogaeth yma at y Gymraeg a’r rheini sy’n mynd ati i ddysgu’r iaith.  Nid pawb fydd yn cyrraedd y brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, ond mae dysgu’r iaith yn sicr o newid bywyd pob un.

Mae rhoi cyfleoedd – a thrwy hynny addysg gydol oes – yn rhan greiddiol o ethos yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae holl ymwneud y sefydliad gyda’r rheini sy’n gwirfoddoli ar ein pwyllgorau am fisoedd lawer yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl.  Mae’n debyg mai’r pwyllgorau apel lleol yw’r enghreifftiau gorau o hyn – mae croeso i unrhyw un ymuno – ac o’r pwyllgorau hyn ar lawr gwlad y daw rhai o’r syniadau mwyaf gwreiddiol a hwyliog am sut i godi arian.

Cawsom alwad yn y swyddfa ddoe, yn gofyn am gymorth i gynhyrchu posteri hyrwyddo ar gyfer rasus hwyaid a hyrddod – ie, hyrddod – i godi arian ar gyfer yr Eisteddfod – a dyna bennawd – Hyrddod yn hyrwyddo’r ‘Steddfod!   Pa sefydliad arall sy’n rhoi cyfle i bobl leol ddod at ei gilydd i drafod a phenderfynu – mewn awyrgylch pwyllgor – y math yma o bethau?  Mae’n amlwg mai dyma ddigwyddodd yn y un o gyfarfodydd diweddar Pwyllgor Apel Dyffryn Ceiriog, ac fe fydd na bosteri hyrwyddo’n eu cyrraedd yn fuan iawn.  17.30 ar 4 Mehefin ar dir Ddol Penbryn, Llanarmon yw’r manylion gyda llaw, rhag ofn eich bod chi am alw draw!

A beth ond cyfle addysg gydol oes yw sefydlu côr yr Eisteddfod?  Bydd nifer o’r aelodau eisoes yn canu mewn gwahanol gorau’n lleol, ond mae croeso i unrhyw un ymuno â’r côr.  Unrhyw un sy’n mwynhau canu ac eisiau’r her o ddysgu darn o waith cerddorol a pherfformio ar lwyfan gydag unawdwyr o safon byd eang.  Buan iawn y daw taith – swyddogol o leiaf – Côr Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd i ben, pan fydd y côr yn canu Requiem hyfryd Mozart yn D leiaf ar lwyfan y Pafiliwn gyda Jason Howard, Wynne Evans, Leah-Marian Jones ac Iona Jones, gydag Alun Guy’n arwain, nos Fawrth 3 Awst.  Ond yr wythnos nesaf, cychwyn fydd taith Côr Wrecsam a’r Fro 2011, nos Sul 23 Mai yng Nghapel y Groes, Wrecsam am 19.30, gydag Ann Atkinson yn arwain.

Peth fel hyn yw Eisteddfod.  Fel mae taith gyhoeddus neu gyfnod un yn dod i ben, mae’r gweithgareddau ar gyfer yr un canlynol yn cynyddu a’r gwaith jyglo’n mynd yn ei flaen – gan y byddwn yn gweithio ar dair neu bedair Eisteddfod ar unwaith weithiau.  Ac yn aml, dydw i ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli cymaint o waith sy’n digwydd yn lleol dros gyfnod mor hir, gyda chymaint o bobl yn rhan o’r paratoi, y codi arian a’r gwaith hyrwyddo – a’r cyfan oll yn gyfle i ddefnyddio a dysgu Cymraeg, yn gyfle i ddysgu a defnyddio sgiliau newydd, ac yn gyfle i roi ffocws clir a phendant i wahanol gymunedau.

Ac yn olaf – rydan ni newydd glywed mai Only Men Aloud enillodd wobr albwm y flwyddyn yng ngwobrau’r Brits Clasurol neithiwr – gan guro’r Pab!  Llongyfarchiadau mawr i Tim a’r bechgyn.  Maen nhw’n hynod dalentog ond hefyd yn ysbrydoliaeth i gynifer o gorau ac unigolion.  Mae’r ymgyrch Only Boys Aloud yn y Cymoedd ar hyn o bryd yn ardderchog, ac yn sicr o roi hwb i’r byd corawl yng Nghymru.  Ac wrth gwrs , y nhw sy’n agor yr Eisteddfod nos Wener 30 Gorffennaf eleni.  Llongyfarchiadau lu – a chofiwch, dewch i’w gweld!