Mae hyfforddwr Cymru, John Toshack yn wynebu problemau yng nghanol y cae ar ôl i chwaraewr Leicester City, Andy King, dynnu’n ôl o’r garfan i wynebu Croatia.

Fe anafodd King linyn y gar yn ystod amser ychwanegol yn erbyn Caerdydd nos Fercher, ac mae disgwyl iddo fod allan o’r gêm am dair wythnos.

Mae’n ymuno gydag Aaron Ramsey, Jack Collison a Joe Allen, tri chwaraewr canol cae arall sydd wedi brifo.

Fydd Joe Ledley, Darcy Blake na David Vaughan ddim ar gael chwaith – fe fydd y ddau gynta’n chwarae i Gaerdydd a Vaughan i Blackpool yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud yr wythnos nesaf ynglŷn â dewis chwaraewr arall i gymryd lle King. Fe allai’r holl fylchau roi cyfle i chwaraewyr megis Brian Stock ac Andy Dorman.

Mae Andy Dorman – chwaraewr canol cae St Mirren- wedi cael ei gynnwys yng ngharfannau Cymru yn erbyn yr Alban ac Estonia, ond dyw Toshack ddim wedi ei ddefnyddio yn yr un gêm eto.

Llun: Andy Dorman – cyfle o’r diwedd?