Mae’r heddlu yn Llundain yn dweud bod gwraig 21 oed wedi cael ei harestio ar ôl ymosodiad ar Aelod Seneddol.

Mae’n cael ei holi ar ôl i Stephen Timms, AS Llafur East Ham, gael ei drywanu yn ystod syrjeri yn ei etholaeth.

Fe gadarnhaodd Scotland Yard eu bod wedi cael eu galw i ddigwyddiad ychydig cyn hanner awr wedi tri y prynhawn yma.

Fe gafodd y gwleidydd ei gymryd i’r ysbyty am driniaeth ond mae’n debyg nad yw ei fywyd mewn peryg.

Gweinidog

Tan yr etholiad diwetha’, roedd Stephen Timms yn weinidog yn y Trysorlys ac wedi bod yn Nhŷ’r Cyffredin ers 1994.

Fe enillodd yn hawdd yr wythnos ddiwetha’ gan gynyddu ei bleidlais o tua 14,000 i gael 70% o’r cyfanswm.

Y tro diwetha’ i ymosodiad o’r fath ddigwydd oedd yn 2000 pan ymosododd dyn gyda chleddyf ar AS y Democratiaid Rhyddfrydol, Nigel Jones, yn Cheltenham. Bryd hynny, fe gafodd un o’i weithwyr ei ladd.

Llun (o wefan yr AS)