Mae Ysgrifennydd newydd Cymru wedi addo bwrw ymlaen ar unwaith i drefnu refferendwm ar ddatganoli pellach.
Ac fe ddywedodd Cheryl Gillan ei bod wedi “dychryn” nad oedd ei rhagflaenydd, Peter Hain, wedi dechrau meddwl pa gwestiwn i’w ofyn yn y bleidlais.
Wrth ymweld â’r Cynulliad am y tro cynta’ ers cael ei phenodi, fe ddywedodd AS Chesham ac Amersham ei bod yn awyddus “i yrru ymlaen” gyda’r refferendwm.
Fe ddywedodd bod cyfarfod rhyngddi hi a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi bod yn “gyfeillgar” ac “ymarferol” a’u bod wedi sefydlu trefn ar gyfer cydweithio, gyda chyfarfodydd pob mis, ac yn amlach os bydd angen.
Dyma’r tro cynta’ i Lywodraeth yn y Cynulliad orfod delio gyda Llywodraetho liw gwahanol yn San Steffan.
“Fe roddais sicrwydd i Carwyn y byddwn yn mynd i drafod ar unwaith sut i yrru’r refferendwm ymlaen cyn gynted ag sydd bosib,” meddai Cheryl Gillan.
Dim dyddiad
Doedd hi ddim yn realistig disgwyl iddi fod wedi penderfynu ar ddyddiad mor fuan ar ôl dechrau’r swydd, meddai wedyn, ond fe gadarnhaodd hefyd y byddai’n edrych eto ar Fformiwla Barnett sy’n trosglwyddo arian o Lundain i Gymru.
“Mae’n gynnar yn awr. Yr hyn yr ydw i wedi ei ddweud erioed yw bod angen asesiad ar sail angen,” meddai.
Dim ond sylw byr oedd gan Carwyn Jones: “Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle da i drafod nifer o bethau pwysig sy’n ymwneud â Chymru ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol newydd i symud ymlaen gyda nhw.”