Mae 202 o aelodau seneddol yn un o wledydd lleia’ adnabyddus Ewrop wedi dechrau ar eu trydedd wythnos o streic newyn, mewn protest yn erbyn canlyniadau etholiadau seneddol y wlad.
Maen ASau Plaid Sosialaidd Albania wedi ymgynnull ynghyd â miloedd o brotestwyr eraill yn y brifddinas Tirana, o flaen swyddfa’r Prif Weinidog Sali Berisha, ac adeilad y Senedd.
Yn ôl y Sosialwyr, roedd y Blaid Ddemocrataidd wedi twyllo er mwyn dod yn ôl i rym yn yr etholiadau cyffredinol fis Mehefin diwethaf.
Gwrthod
Mae’r Sosialwyr yn honni fod ganddyn nhw brawf o hyn, ac wedi galw am i’r pleidleisiau gael eu hail gyfri. Mae eu harweinydd wedi dweud y bydd yn llwgu hyd at gwympo.
Gwrthod yr honiadau y mae’r Llywodraeth, gan fynnu y byddai ail-gyfri’n mynd yn groes i gyfansoddiad gwleidyddol y wlad.
Mae’r Sosialwyr wedi bod yn protestio’n gyson ers yr etholiad, ac maen nhw wedi gwrthod cymryd eu seddi yn y Senedd.
Gyda’r protestwyr yn gwersylla o fewn golwg i gartref Prif Weinidog Albania, ,mae adroddiadau hefyd bod heddlu wedi ymateb yn llawdrwm gan ddefnyddio nwy dagrau.
Er bod sylwedyddion yn dweud bod y pleidleisio’n decach nag yn y gorffennol, doedd yr etholiadau ddim wedi cydymffurfio’n llwyr â gofynion rhyngwladol – prin 20 mlynedd sydd ers i’r wlad newid o unbennaeth gomiwnyddol i gynnal etholiadau democrataidd.
Albania – y cefndir
Roedd yr etholiad yn cael ei ystyried yn allweddol ar gyfer awydd Albania i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, ac mae’r sefyllfa annelwig yn bygwth eu cais. Mae’r Llywodraeth wedi dweud fod y sefyllfa yn niweidio’r wlad.
Er bod economi Albania wedi gwneud yn well na llawer o’i chymdogion yn ddiweddar, mae’n parhau i fod yn un o’r gwledydd tlotaf yn Ewrop.
Ers i’w hunben Comiwnyddol farw yn 1985, mae yna ymrafael parhaus wedi bod rhwng y cyn-Gomiwnyddion a phleidiau eraill.
Llun: Y ffordd fawr trwy’r brifddinas Tirana (CCA2.0)