Bydd pobol sy’n ymweld ag un o ganolfannau ymwelwyr Ceredigion yn gallu gweld delweddau byw o dylluanod prin yn eu cynefin naturiol.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi gosod camera cudd sy’n dangos lluniau byw o ddwy dylluan wen ar sgrîn deledu yng nghanolfan Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth.
Mae’r camera wedi cael ei osod mewn blwch yn y goedwig lle mae’r tylluanod wedi nythu, ac yn ôl y comisiwn, mae’r iâr wedi dodwy tri wy.
Yn ôl datganiad gan y ganolfan, “mae’r camera cudd yn anfon delweddau isgoch i’r ganolfan o’r fam yn gori ac o’r wyau’n deor tra bo’r tad yn gofalu am ei bwydo ac yn dod ag anifeiliaid megis llygod a llygod pengrwn iddi i gadw ei nerth.
“Dyma’r tro cyntaf i’r camera, a gafodd ei osod y llynedd, ddangos y dylluan yn dodwy wyau, a bydd ymwelwyr yn gallu gweld y cywion yn tyfu, o foment eu geni hyd nes eu bod yn barod i adael y nyth.”