Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn bygwth gweithredu uniongyrchol yn erbyn Cyngor Sir Gwynedd oherwydd eu bwriad i gau Ysgol y Parc ger y Bala.
Ond mae’r cynghorydd sy’n arwain y Cyngor ym maes addysg yn mynnu bod rhaid gwneud y penderfyniad oherwydd maint yr ysgol ac oed yr adnoddau yno.
Fe fydd Llefarydd Addysg y Gymdeithas, Ffred Ffransis, yn argymell wrth aelodau yng Ngwynedd y dylen nhw ddechrau “ymgyrch o ddwyn pwysau gweithredu uniongyrchol ar Gyngor Gwynedd”.
‘Gwaeth’
Mae’r Gymdeithas yn dweud bod y cynigion diweddara’ ar gyfer ysgolion yn ardal Y Bala yn waeth na chynlluniau cynharach a arweiniodd at golli seddi i Blaid Cymru ar y cyngor.
Mae’n golygu cau Ysgol y Parc a rhoi’r ardal o fewn dalgylch Ysgol Llanuwchllyn a chreu ysgol 3-19 yn Y Bala trwy gyfuno dwy ysgol gynradd ac Ysgol Uwchradd y Berwyn.
“Roedd y gyn arweinyddiaeth wedi rhoi sicrwydd am ddyfodol Ysgol y Parc,” meddai Ffred Ffransis. “Nawr mae gyda ni arweinyddiaeth newydd sydd am danseilio cymuned fywiog Gymraeg.
“Mae hon yn frwydr derfynol dros ddyfodol ein cymunedau Cymraeg.”
Dadl y Cyngor
“Roedd hi’n amser gwneud penderfyniad am Ysgol y Parc,” meddai Arweinydd Portffolio Addysg Gwynedd.
Ac, yn ôl Liz Savill Roberts, roedd creu ysgol 3-18 yn ffordd o rannu arbenigedd addysgol a dulliau dysgu ac yn help wrth i blant symud o’r cynradd i’r uwchradd.
O bedair ysgol yn yr ardal, Ysgol y Parc yw’r lleiaf, meddai, gydag 18 o ddisgyblion. Mae gan Ysgol Bro Tryweryn yn Frongoch 27 o blant, Ysgol Ffridd y Llyn, Cefnddwysarn, 56 ac Ysgol O. M. Edwards, Llanuwchllyn, 53.
Yn ôl amcangyfrifon ar gyfer 2013 yn Y Parc y byddai’r cynnydd lleiaf o blith y ddwy ysgol leia’ – 22 o’i gymharu â 36 yn Ysgol Bro Tryweryn.
Ymhlith “nifer o ffactorau eraill”, roedd safon yr adnoddau: “Mae’r Parc mewn adeilad Fictoraidd ac mae’r adnoddau’n anodd iawn i’w haddasu ar gyfer gofynion cyfnod sylfaen (3-7 blwydd oed),” meddai Liz Savill Roberts.
Ceisio cadw ysgolion
“Rydan ni’n ymdrechu lle medrwn ni i gadw ysgolion yn agored. Rydan ni’n ymdrechu yma i gadw tair … Ond, gydag ysgol mor fach mewn sefyllfa fregus, mae yma gyfle i wneud
rhywbeth i gryfhau addysg yn y cylch – mae’n amser gwneud penderfyniad.
“Yn sicr, fe wnawn ni be fedrwn ni i sicrhau darpariaeth gymunedol y Parc,” meddai.
Llun: Ffred Ffransis – galw am weithredu uniongyrchol