Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd pobol sy’n dioddef o ganser yn cael cymorth uniongyrchol gan weithiwr o’r Gwasanaeth Iechyd trwy gydol eu prif driniaeth ac wedyn.
Bydd pob claf sydd â chanser, yn ôl yr Adran Iechyd yng Nghaerdydd, yn cael cymorth uniongyrchol gan ‘weithiwr allweddol’.
Fe fydd union natur y gefnogaeth yn newid yn unol â gofynion y cleifion ond mae disgwyl i bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru sicrhau bod y gweithwyr allweddol yn eu lle erbyn diwedd mis Mawrth 2011.
‘Un o bob tri’
“Mae un o bob tri yn dioddef o ganser ar ryw adeg yn ystod eu bywydau,” meddai Gweinidog Iechyd y Cynulliad, Edwina Hart, wrth gyhoeddi’r safonau newydd heddiw.
“Felly mae buddsoddi mewn gofalu am bobl sydd â chanser, ac mewn camau i leihau nifer yr achosion o’r clefyd, wedi bod, ac yn parhau i fod, yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
“Yn fy marn i, mae datblygu rôl gweithwyr allweddol yn rhan hanfodol o wella’r gofal a gynigir i gleifion sy’n dioddef o ganser. Mae llawer ohonyn nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain.”
Mae’r safonau eraill yn cynnwys: buddsoddi mewn rhagor o weithwyr a chyfarpar newydd i gyflymu’r broses diagnosis a thriniaeth; a buddsoddi mewn addysg er mwyn lleihau nifer yr achosion o ganser yn y tymor hir.
Y Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser a ddatblygodd y safonau newydd gan ymgynghori gydag arbenigwyr a chleifion sy’n dioddef o ganser.
Llun: Cyhoeddi safonau newydd – Edwina Hart