Fe fydd rhaid i Gavin Henson fod yn ôl yn chwarae ar ei orau erbyn Pencampwriaeth y Chwe Glad y flwyddyn nesa’ i gael unrhyw obaith o chwarae yng Nghwpan y Byd, meddai hyfforddwr Cymru.

“Fe fydd yn rhy hwyr ar ôl hynny,” meddai Warren Gatland wrth bapur y Western Mail. “Dyna’r diweddaraf y bydden yn disgwyl i Gavin fod yn ôl ac yn chwarae’n dda.”

Fe ddatgelodd rheolwr gyfarwyddwr y Gweilch, Mike Cuddy, y mis diwethaf bod Henson yn barod i ddychwelyd i chwarae i’r rhanbarth.

Roedd y chwaraewr amryddawn wedi cymryd seibiant o’r gêm yn dilyn cyfres o anafiadau a dyw e chwarae rygbi ers dros flwyddyn ond mae disgwyl iddo ddychwelyd i chwarae gyda’r Gweilch y tymor nesaf.

“Y peth mwyaf pwysig i’w chwarae’n dda i gael cyfle i fod yn rhan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad,” meddai Gatland.

“Bydd gemau’r hydref siŵr o fod yn rhy gynnar iddo, ond fe allai fod yn bosibilrwydd ar gyfer Cwpan y Byd pe bai’n chwarae’n dda adeg y Chwe Gwlad.”

Dyw Gavin Henson erioed wedi chwarae yng Nghwpan y Byd – chafodd e ddim ei ddewis yn 2003 ac roedd wedi’i anafu cyn cystadleuaeth 2007.