Mae prif sgoriwr Caerdydd, Peter Whittingham wedi dweud bydd yn ffit i chwarae yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Blackpool yn Wembley ymhen wythnos.
Mae’r chwaraewr canol cae wedi chwarae rhan allweddol yn ymdrech yr Adar Glas i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair y tymor hwn, ac ef a sgoriodd y gic gosb holl bwysig yn erbyn Leicester City i fynd â’r ail gymal mewn i amser ychwanegol.
Yn y cymal cyntaf, ef a sgoriodd unig gôl y gêm – cic rydd arall o ymyl y bocs 18.
Ond ddydd Sul, bu raid i Whittingham adael y cae gydag anaf ac roedd amheuon ynglŷn â’i ffitrwydd cyn herio tîm Ian Holloway.
Ffyddiog
Er gwaethaf hynny mae Whittingham yn ffyddiog y bydd yn cymryd rhan yn y rownd derfynol.
“Rwy’n hyderus y byddaf yn ffit ar gyfer y rownd derfynol. Fe fydda’ i’n gweithio gyda’r ffisiotherapyddion dros y dyddiau nesaf, ond mae gyda ni ddeg diwrnod cyn y rownd derfynol, a gobeithio y bydd popeth yn iawn,” meddai Peter Whittingham.
“Teimlais rywbeth yn dilyn y gic rydd, ac fe gafodd y penderfyniad ei wneud i mi ddod oddi ar y cae rhag ofn,” meddai Whittingham.
‘Blackpool yn her’
Mae chwaraewr Caerdydd yn credu y bydd herio Blackpool yn her fawr i glwb y brifddinas.
“Fe fydd pob gêm yn galed nawr. Mae’n mynd i fod yn gêm anodd i ni, ond mae’n un yr ’yn ni’n edrych ymlaen ati,” nododd Whittingham.
“Fe wyliodd nifer o’r bois y gemau rhwng Blackpool a Nottingham Forest ac mae Blackpool yn dîm da. D’ych chi ddim yn cyrraedd y rownd derfynol heb fod yn dîm da.”