Mae’r Prif Weinidog wedi addo mai’r llywodraeth glymblaid newydd fydd “y Llywodraeth wyrddaf erioed”.
Ac fe orchmynnodd bod rhaid i bob adran yn y Llywodraeth dorri’n ôl o 10% ar y carbon y maen nhw’n ei gynhyrchu.
Wrth iddo ymweld â’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd, sydd o dan reolaeth Chris Huhne o’r Democratiaid Rhyddfrydol, dywedodd David Cameron y bydd economi werdd, newid hinsawdd a diogelwch ynni yn flaenllaw ar ei agenda.
“Mae gyda ni gyfle mawr – rwyf am i ni fod y llywodraeth wyrddaf erioed. Mae’n uchelgais syml, ac un rwy’n gwbl ymroddedig i’w gyflawni,” meddai.
Dywedodd y Prif Weinidog bod gan Brydain gyfle i wella’r economi a chreu mwy o swyddi gwyrdd trwy sicrhau bod mwy o’r diwydiannau hynny’n yn dod i wledydd Prydain yn y dyfodol.
Fe fydd llwyddiant neu fethiant adrannau’r llywodraeth i gadw at y targedau carbon yn cael eu cyhoeddi fel y mae’n digwydd.
“Bydd cyhoeddi faint o ynni mae pob adran yn ei ddefnyddio ar y pryd yn helpu gyda’r ymdrechion i leihau allyriadau,” meddai David Cameron.
Llun: David Cameron a rhai o’i gabinet – fe fydd rhaid i bob adran dorri 10% ar garbon (Gwifren PA)