Mae’r Gweinidog Iechyd wedi galw am ymchwiliad i bryderon bod cysylltiad rhwng gwaith sment yng ngogledd Cymru ac achosion o ganser yn yr ardal.

Fe ymatebodd Edwina Hart i gais gan Gyngor Cymuned Penyffordd ger yr Wyddgrug i edrych ar gynnydd honedig mewn achosion o’r salwch yng nghyffiniau gwaith Hanson Cement – Castle Cement gynt.

Fe ddaeth cyhoeddiad heddiw ei bod wedi gofyn i’r corff Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnal yr ymchwiliad, gan weithio gyda’r gymuned leol a chyrff eraill ym maes iechyd a’r amgylchedd.

Y nod, meddai Edwina Hart, yw dod i ddeall pryderon pobol yn well a chynnig cyngor a chefnogaeth fel bo’r angen.

Cwynion

Fis yn ôl fe anfonodd y cyngor cymuned lythyr ati yn gofyn am ymchwiliad cyhoeddus gan ddweud nad oedd profion iechyd iawn wedi’u gwneud pan roddwyd caniatâd i godi odyn newydd ar y safle yn Padeswood.

Maen nhw’n honni bod mwy o achosion o ganser yn yr ardal a bod cysylltiad rhwng hynny a’r gwaith sment; mae papurau lleol hefyd wedi cario straeon am achosion o’r fath, gan gynnwys un diweddar yn ymwneud ag un o gyn weithwyr Castle.

Roedd adroddiad yn ôl yn 2004 wedi dweud nad oedd y gwaith yn achosi problemau iechyd ac, yn ôl y BBC, mae rheolwr cyffredinol y gwaith, Mark Cox, wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud eu bod yn hyderus am y canlyniad.

Llun: Gwaith Castle Cenent – Hanson Cement erbyn hyn