Mae o leia’ un person arall wedi ei ladd yng Ngwlad Thai wrth i’r gwrthdaro rhwng protestwyr a milwyr fynd o ddrwg i waeth.
Fe ddechreuodd milwyr danio ar y gwrthdystwyr wrth iddyn nhw achosi terfysg yng nghanol y brifddinas, Bangkok, mewn ardal sy’n llawn o lysgenadaethau tramor.
Fe gafodd un protestiwr ei ladd neithiwr hefyd ac mae ffotograffydd a newyddiadurwr tramor wedi eu hanafu.
Mae’r fyddin yn ceisio clirio’r protestwyr – y Crysau Coch – o’u cadarnleoedd yn ardaloedd masnachol Bangkok lle maen nhw wedi bod ers tua deufis.
Maen nhw wedi bod yn galw am ymddiswyddiad y Prif Weinidog ac am gynnal etholiadau – maen nhw’n honni bod yr etholiadau diwetha’n annheg a bod elît y wlad yn gwneud cam â’r mwyafrif gwledig.
Gwrthdaro’n parhau
Wrth i’r gwrthdaro barhau, mae’r Llywodraeth wedi dileu cynnig heddwch i gynnal etholiad cyn diwedd y flwyddyn.
Roedd arweinwyr y Crysau Coch wedi derbyn y cynnig ond hefyd wedi galw am ragor o newidiadau.
Mae tua 10,000 o brotestwyr bellach mewn ardal fechan o’r brifddinas, wrth i’r fyddin gau amdanyn nhw. Maen nhwthau wedi bod yn ymosod ar gerbydau swyddogol, gan gynnwys rhoi bws heddlu ar dân.
Gwaethygu eto?
Fe allai’r gwrthdaro waethygu eto os bydd un o arweinwyr y Crysau Cochion yn marw. Fe gafodd cyn-filwr sy’n cefnogi’r protestwyr ei saethu yn ei ben ac mae mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty.
Mae’r protestwyr yn rhoi’r bai ar y Llywodraeth am y digwyddiad a hynny a arweiniodd at y trais diweddara’.
Erbyn hyn, mae 31 o bobol wedi cael eu lladd yn ystod y ddau fis o helynt, a ddechreuodd ar Fawrth 12.
Llun: Milwyr yn cau am y protestwyr (AP Photo)