Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi talu teyrnged i gefnogwr a fu farw wrth wylio buddugoliaeth y clwb yn ail gymal y gemau ail gyfle yn erbyn Leicester City nos Fercher.
Fe gafodd Wayne Jones, a oedd yn ei 50au, drawiad ar y galon yn ystod y gêm.
Fe fu meddyg a oedd yn y dorf yn ceisio achub y dyn o Lynebwy ond, er ei ymdrechion ef a pharafeddygon, methwyd â’i adfywio.
Cadeirydd Caerdydd sydd wedi arwain y teyrngedau i’r cefnogwr a’i deulu. Ac fe gafodd hynny ei ategu gan y darpar berchennog newydd.
“Ar ran y clwb, cydymdeimlaf gyda theulu Wayne Jones. Mae yn ein meddyliau ar adeg anodd,” meddai Peter Ridsdale.
“Rwy’n drist i glywed am farwolaeth Wayne Jones. Dw i’n estyn allan at y teulu,” meddai Dato’ Chan Tien Ghee.
Mae nifer o gefnogwyr Caerdydd wedi gadael teyrngedau ar negesfyrddau cefnogwyr y clwb.
Llun: Cadeirydd Caerdydd, Peter Ridsdale